Arlywydd Biden yn cyfarfod galarwyr yn Uvalde yn Texas

Mae Arlywydd yr UDA Joe Biden a’i wraig Jill wedi cyfarfod â theuluoedd y rhai fu farw mewn ysgol gynradd yn Uvalde yn nhalaith Texas yn gynharach yn yr wythnos.
Dyma’r ail ymweliad i’r Arlywydd mewn llai na phythefnos i leoliad lle gafodd pobl eu saethu’n farw.
Aeth y ddau i Ysgol Gynradd Robb yn y ddinas ddydd Sul lle saethwyd 19 o blant a dau oedolyn yn farw ddydd Mawrth.
Roedd y ddau hefyd wedi ymweld â dinas Buffalo yn ddiweddar lle saethwyd 10 o bobl mewn archfarchnad.
Mae ymweliad Mr Biden yn nodi cychwyn cyfnod o alaru swyddogol yn Uvalde wrth i angladdau'r rhai fu farw gymryd lle.
Darllenwch fwy yma.
Llun: Washington Post