
Arwydd anferth yn Ninbych yn nodi dechrau Eisteddfod yr Urdd
Arwydd anferth yn Ninbych yn nodi dechrau Eisteddfod yr Urdd

Gydag Eisteddfod yr Urdd yn cychwyn ddydd Llun yn Ninbych mae triongl anferth ar ffurf logo’r mudiad ar ochr bryn yn denu sylw i'r ŵyl.
Mi gafodd y triban mawr, sy’n mesur 160 metr o hyd a 60 metr o led, ei adeiladu gan dîm o wirfoddolwyr, dan arweiniad dau athro lleol sydd wedi ymddeol, Bryan Jones a Cledwyn Jones.
Maen nhw wedi defnyddio deunydd ecogyfeillgar sy’n caniatáu i ddŵr basio trwyddo.
Mae’r triongl wedi ennyn sylw ar y cyfryngau cymdeithasol, gyda rhai yn holi lle mae’r lliw coch? Mae yna goch yna, ond efallai nad ydyw'r coch mor glir â hynny o bellter.

Dywedodd Bryan Jones: “Athom ni fyny 'ma ac edrych lawr ar y maes a sylweddoli fod o'n bell iawn i ffwrdd. Felly o'dd rhaid i ni neud rywbeth mawr jyst er mwyn iddo gael ei weld, a sylweddoli fod rhaid idda fo fynd yn fwy, ac yn fwy, ac yn fwy er mwyn idda fo gael ei weld o'r dref 'lly."
Dywedodd Cledwyn Jones: “Nathom ni farcio fo allan efo polion metel, rhaffu fo, a wedyn nes di osod festiau high vis wedyn ar bob cornel. Wedyn atho ni adre yn do."
Mae Cledwyn yn byw ar Ffordd Rhyl yn Ninbych ac yn gweld y bryn o'i 'stafell wely, felly roedd yn gallu bod yno bob bore a nos yn tynnu llun o'r mynydd.
Ychwanegodd Bryan: “A wedyn wrth gwrs ma' pawb di sôn am y coch. Pam nad oes 'na goch yno? Ma' 'na goch yma ond mae'n anodd iawn i weld o o'r gwaelod o bosib.
"A ni 'di cael y syniad o rhoi naill ai y gair 'Triban' neu'r flwyddyn 2022 mewn pallets. Felly o'dd rhaid dod â rheini fyny. A wedyn 'da ni di gosod nhw yn y canol a 'di baentio fo'n goch. Felly ma' 'na goch yma i bawb gael gwybod.”
✨ EISTEDDFOD YR URDD 2022 ✨
— S4C 🏴 (@S4C) May 30, 2022
👇 Sut i wylio? | How to watch? 👇https://t.co/gp8snoMQOr pic.twitter.com/CYYPNIMTYF