Apêl am fwy o wybodaeth yn ymchwiliad llofruddiaeth mam-gu yng Nghasnewydd

Mae Heddlu Gwent yn apelio am ragor o wybodaeth wrth iddynt gynnal ymchwiliad llofruddiaeth yn dilyn marwolaeth mam-gu yng Nghasnewydd.
Cafodd Mari O'Flynn, 79, ei darganfod yn farw ddydd Mawrth mewn cyfeiriad ar Heol Leach yn ardal Bettws.
Mae dyn 51 oed wedi'i arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ac yn parhau yn y ddalfa.
Mae'r heddlu nawr yn apelio i unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth, yn enwedig deunydd CCTV neu dashcam, i gysylltu gyda nhw ar unwaith.
Wrth dalu teyrnged i Ms O'Flynn, dywedodd ei theulu ei bod yn fenyw "hyfryd, gref ac annibynnol."
“Mae ein calonnau wedi torri gan y ffordd greulon y cafodd ein mam ei chymryd oddi wrthym ni.
“Ni fyddem byth wedi dychmygu ein hunain yn y sefyllfa hon ac ni all geiriau ddisgrifio’r galar rydym yn ei brofi ar hyn o bryd.
“Ein unig gysur yw gwybod ei bod wedi ymuno unwaith eto gyda’i gŵr a’i ffrind gorau, y mae hi wedi ei golli gymaint.
“Fydd hi byth yn bosibl llenwi’r bwlch ar ei hôl a bydd colled fawr ar ei hôl gan bawb, teulu a ffrindiau yn ddiwahân.”
Dywedodd yr heddlu y dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu gan gyfeirio at rif cyfeirnod 2200173266.