Newyddion S4C

Beth yw brech y mwncïod?

Beth yw brech y mwncïod?

Newyddion S4C 27/05/2022

Cafodd yr achos cyntaf o frech y mwncïod ei gadarnhau yng Nghymru ddydd Iau.

Roedd 78 achos yn y Deyrnas Unedig ddydd Mawrth, ond dyma'r achos cyntaf i gael ei ddarganfod yng Nghymru.

Mae’r feirws hefyd wedi ei chanfod mewn gwledydd ar draws y Byd o'r Unol Daleithiau i Awstralia a rhannau arall o Ewrop.

Dr Eleri Davies o Iechyd Cyhoeddus Cymru bu’n esbonio mwy am y feirws wrth Newyddion S4C.

Beth yw Brech y Mwncïod?

Mae brech y mwncïod yn haint firol sydd fel arfer yn cael ei ganfod yng nghanolbarth a gorllewin Affrica.

Mae gwyddonwyr wedi adnabod dau fath o straen frech y mwncïod. Straen gorllewin Affrica a straen canolbarth Affrica neu'r Congo sydd yn fwy difrifol.

Yn ôl gwyddonwyr, straen gorllewin Affrica sydd wedi ei chanfod yn yr achosion diweddar.

Dywedodd Dr. Davies nad yw “brech y mwncïod yn fath o feirws sydd yn newid mor gyflym ag er enghraifft mathau o feirws sydd wedi achosi'r Covid."

Beth yw’r symptomau?

Yn ôl Asiantaeth Diogelwch Iechyd y Deyrnas Unedig, mae symptomau cynnar brech y mwncïod yn cynnwys twymyn, cur pen, poenau yn y cyhyrau, nodau lymff wedi chwyddo ac oerni.

Disgrifiodd Dr Davies y symptomau fel rhai sy’n debyg i ffliw.

“Mae’r symptomau yn dechrau mewn ffordd sy’n eithaf cyffredin mewn sawl feirws felly mae yna dymheredd uchel, teimlad o flinder, yr un math o symptomau a ffliw neu Covid i ddechrau.

“Ac wedyn mae’r frech yn ymddangos ac mae’r frech yn eithaf tebyg i frech yr ieir, ond yn ymddangos mewn mannau bach yn wahanol, felly bydda chi’n gweld nhw ar y traed y dwylo yn fwy na rhannau eraill."

Mae'r haint fel arfer yn clirio ar ei ben ei hun ac yn para rhwng 14 a 21 diwrnod.

Sut mae'n lledaenu?

Mae’n bosib i frech y mwncïod ledaenu drwy gysylltiad agos â pherson heintiedig. Gall y feirws fynd i mewn i'r corff trwy groen wedi torri, drwy'r llygaid, y trwyn neu'r geg.

Dywedodd Dr Davies, bod angen cyswllt agos iawn yn gyffredinol i ledaenu’r feirws, “a dydy’n ni ddim yn gweld lledaeniad mor effeithiol ag er enghraifft SARS y feirws sy’n achosi Covid.”

Er nad yw wedi'i ddisgrifio o'r blaen fel haint sy’n cael ei drosglwyddo drwy ryw, mae modd ei drosglwyddo trwy gyswllt uniongyrchol yn ystod rhyw.

Gall hefyd gael ei ledaenu trwy ddod i gysylltiad ag anifeiliaid heintiedig fel mwncïod, llygod mawr a wiwerod.

Pa mor beryglus ydyd’r feirws?

Mae'r rhan fwyaf o achosion o'r firws yn ysgafn, weithiau'n debyg i frech yr ieir, ac yn clirio ar eu pen eu hunain o fewn ychydig wythnosau.

Pam bod cynydd mewn achosion?

Yn ôl Dr Davies, mae yna gynnydd mawr wedi bod mewn achosion yn Lloegr a dros yr wythnos diwethaf.

“Ar hyn o bryd y ddamcaniaeth yw bod y sefyllfa wedi datblygu gan fod pobl wedi bod mewn mannau lle mae pobl yn agos iawn, falle bod y ffaith bo’ ni’n dod allan o bandemig a bod pobl yn cysylltu yn fwy agos nag maen nhw wedi ei wneud ers sbel fawr wedi rhoi sefyllfa sydd wedi galluogi'r feirws yma i ledaenu,” meddai Dr Davies.

Ydy dynion hoyw mewn mwy o berygl?

Er bod rhai o’r achosion wedi’u gweld mewn dynion hoyw a deurywiol, fe allai unrhyw un sy’n dod i gysylltiad agos â rhywun sydd â brech mwnci gael y firws o bosibl. 

Dywedodd Dr Davies,“mae mwyafrif o’r achosion yma yn gysylltiedig â dynion sydd yn hoyw neu yn ddeurywiol ac felly ‘da ni yn cynghori i’r grwpia yna fod yn effro i’r ffaith fod y feirws sydd yn achosi brech y mwnci i weld yn lledaenu o fewn rhwydweithiau rhywiol ar hyn o bryd.”

A ddylai'r cyhoedd fod yn bryderus?

Dywed arbenigwyr nad ydym ar drothwy achos cenedlaethol ac, yn ôl Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA), mae’r risg yn isel.

Ychwanegodd Dr Davies:“Da ni’n tybio ar hyn o bryd bod y risg i’r boblogaidd yn isel, dyw brech y mwnci ddim yn lledaenu yn rhwydd iawn.”  

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.