'Partygate': ITV yn cyhoeddi mwy o luniau o barti honedig yn Downing Street
23/05/2022
Mae ITV wedi cyhoeddi mwy o luniau o barti honedig yn Downing Street yn ystod y cyfnod clo.
Mae'r lluniau newydd yn dangos y Prif Weinidog Boris Johnson yn codi gwydryn mewn parti gadael i aelod o staff ar 13 Tachwedd 2020.
Cafodd y lluniau eu cymryd mewn digwyddiad i nodi diwedd cyfnod Lee Cain y Cyfarwyddwr Cyfathrebu ar y pryd.
Roedd y rheolau ar y pryd yn galluogi dau berson o wahanol aelwydydd i gymysgu dan do.
Darllenwch fwy yma.