Newyddion S4C

Cynghorydd tref yn ymddiswyddo yn sgil honiad mai fe yw Banksy

23/05/2022
Banksy - Season's Greetings

Mae cynghorydd tref yn Sir Benfro wedi ymddiswyddo yn sgil honiad mai fe yw'r arlunydd Banksy.

Fe gyhoeddodd y Cynghorydd William Gannon ei fod wedi ymddiswyddo o Gyngor Tref Doc Penfro, a hynny ar unwaith.

Mewn datganiad ar ei dudalen Facebook ddydd Llun, dywedodd fod yr honiad yn "tanseilio" ei allu i gwblhau ei waith fel Cynghorydd Tref.

Mae Banksy yn adnabyddus am ei gelf stryd, gan gynnwys darn o waith 'Season's Greetings' ar gornel garej ym Mhort Talbot yn 2019.

Dywedodd y Cynghorydd Gannon fod "nifer o bobl" yn credu fod yr honiad yn wir ac nad oedd eisiau i'r honiad danseilio enw da Cyngor Tref Doc Penfro.

Mae Newyddion S4C wedi derbyn cadarnhad gan Gyngor Tref Doc Penfro fod y clerc wedi derbyn ei ymddiswyddiad.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.