Carchar am oes i filwr Rwsiaidd am lofruddio dyn yn Wcráin
23/05/2022
Carchar am oes i filwr Rwsiaidd am lofruddio dyn yn Wcráin
Mae milwr o Rwsia a blediodd yn euog i lofruddio dyn 62 oed yn Wcráin wedi cael dedfryd o garchar am oes.
Dyma'r achos troseddau rhyfel cyntaf ers dechrau'r rhyfel yn Wcráin.
Roedd Vadim Shishimarin wedi ei gyhuddo o saethu dyn heb arfau ym mhentref Chupakhivka.
Mewn achos yn Kyiv, cyfaddefodd y milwr 21 oed iddo saethu tuag at y dyn ar 28 Chwefror, bedwar diwrnod wedi i'r rhyfel ddechrau.
Roedd Shishimarin yn ddi-emosiwn pan gafodd y ddedfryd ei chyhoeddi yn y llys.
Rhagor o fanylion yma
Lluniau: Wotchit