Newyddion S4C

Covid-19: Bron i 10,000 o bobl wedi derbyn neu'u gwahodd am frechiad drwy gamgymeriad

23/05/2022
Brechiad Covid-19

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymddiheuro ar ôl i grŵp sylweddol o bobl dderbyn brechlyn atgyfnerthu, er nad oedden nhw'n gymwys.

Dywed y llywodraeth bod 9,500 o bobl naill ai wedi derbyn, wedi eu gwahodd i dderbyn neu i fod derbyn gwahoddiad am frechiad ychwanegol.

Fe gafodd y dryswch ei ddarganfod gan fyrddau iechyd ar 16 Mai, cyn i'r llywodraeth ddod yn ymwybodol o'r mater ar 17 Mai.

Mae'r Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI) wedi bod yn blaenoriaethu brechu unigolion sydd ag imiwnedd isel.

Dywed y llywodraeth mai'r rheswm am y dryswch oedd gan fod y grŵp ag imiwnedd isel yn ehangach ar gyfer ymgyrch frechu'r gwanwyn nag oedd yn flaenorol wedi i'r grŵp gael ei ehangu.

Fe fydd y sawl sydd yn y grŵp yma ond sydd heb dderbyn eu brechiad atgyfnerthu hyd yma yn cael eu gwahodd am frechiad ychwanegol - a hynny ar ôl ystyriaeth o'r rhesymau o blaid ac yn erbyn, yn ôl y gweinidog iechyd.

Mewn datganiad ysgrifenedig ddydd Llun, dywedodd Eluned Morgan y bydd pob un sydd wedi'u heffeithio yn cael gwybod am y sefyllfa.

Mae "ymarfer dysgu gwersi" hefyd wedi dechrau er mwyn cynllunio ar gyfer cymalau pellach o'r cynllun brechu yn y dyfodol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.