Newyddion S4C

Cau campysau addysg yn Abertyleri ar ôl i fachgen golli bys

23/05/2022
S4C

Mae ymddiriedolaeth ysgol wedi cau ei holl gampysau ddydd Llun ar sail “iechyd a diogelwch" ar ôl i fachgen 11 oed golli ei fys wrth geisio ffoi o adeilad ysgol yn Abertyleri.

Cafodd bys Raheem Bailey, 11 oed ei dorri i ffwrdd ar ôl iddo anafu ei law y tu allan i adeilad Cymuned Ddysgu Abertyleri ddydd Mawrth.

Yn ôl ei fam, Shantal Bailey, roedd ei mab wedi dioddef yr anaf wrth ffoi rhag disgyblion oedd wedi "ymosod" arno ar y pryd.

Dywedodd: "Wrth ddringo'r ffens, cafodd ei fys ei ddal a'i ddatgysylltu, gan achosi i'r croen rwygo a'r bys i dorri yn ei hanner. Ar ôl chwe awr o lawdriniaeth i'w achub, a oedd yn y pen draw yn aflwyddiannus, bu'n rhaid torri ei fys i ffwrdd."

Dywedodd hefyd fod Raheem wedi bod yn wynebu “cam-drin hiliol a chorfforol” ers ymuno gyda Chymuned Ddysgu Abertyleri ym mis Medi'r llynedd.

Image
S4C
Cafodd bys Raheem Bailey ei ddal mewn ffens wrth iddo geisio ffoi rhag disgyblion 

Mewn datganiad a gyhoeddwyd ddydd Sul, dywedodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent y byddai pob campws yng Nghymuned Ddysgu Abertyleri ar gau ddydd Llun.

“Mae Cymuned Ddysgu Abertyleri yn gweithio gyda Heddlu Gwent mewn perthynas ag ymchwiliad parhaus i ymosodiad honedig ar y campws uwchradd.

“Bydd pob campws yng Nghymuned Ddysgu Abertyleri ar gau yfory ar sail iechyd a diogelwch.

"Bydd dysgwyr yn cael mynediad at ddysgu cyfunol ar gyfer dydd Llun, 23 Mai. Mae diogelwch a lles dysgwyr a staff yn parhau i fod yn hollbwysig i'r Gymuned Ddysgu a'r Awdurdod Lleol bob amser."

Mae Heddlu Gwent yn ymchwilio i’r digwyddiad.

Mewn datganiad ddydd Sadwrn dywedodd yr Uwch-arolygydd Vicki Townsend: “Mae ein swyddogion yn cefnogi ac mewn cysylltiad agos â theulu’r bachgen ifanc a gafodd anaf difrifol i’w law wrth adael tir yr ysgol yn dilyn yr ymosodiad yr adroddwyd amdano.

“Rydym yn gweithio’n agos gyda’r ysgol ac mae swyddogion yn parhau i gynnal ymholiadau yn yr ardal.”

Mewn datganiad ysgrifenedig ddydd Llun, dywedodd y Gweinidog Addysg Jeremy Miles: "Mae Llywodraeth Cymru yn condemnio bwlio ac aflonyddu ar unrhyw ffurf, gan gynnwys unrhyw fath o fwlio neu aflonyddu hiliol."

Mae tudalen apêl ariannol wedi codi dros £80,000 ac mae Raheem wedi derbyn negeseuon o gefnogaeth gan sêr ar draws y byd gan gynnwys Anthony Joshua, Jadon Sancho a Gerald Green.

Lluniau: Instagram @blmcardiff

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.