Wrecsam yn cael ei huwchraddio i statws dinas fel rhan o ddathliadau Jiwbilî y Frenhines
Wrecsam yn cael ei huwchraddio i statws dinas fel rhan o ddathliadau Jiwbilî y Frenhines

Bydd tref Wrecsam yn cael ei huwchraddio i statws dinas fel rhan o ddathliadau Jiwbilî Platinwm y Frenhines ym mis Mehefin.
Mae Wrecsam yn un o wyth enilydd sydd wedi hawlio statws dinas, sef y nifer uchaf o wobrau yn y gystadleuaeth.
Cafodd y gystadleuaeth i dderbyn anrhydeddau dinesig ei chynnal ddiwethaf ddeng mlynedd yn ôl i ddathlu Jiwbilî Deimwnt y Frenhines.
Am y tro cyntaf yn hanes y gystadleuaeth, roedd ceisiadau ar agor ar gyfer tiriogaethau dibynnol y Goron a thiriogaethau tramor, gyda Stanley ar Ynysoedd y Falklands a Douglas ar Ynys Manaw hefyd yn rhan o'r enillwyr.
Mae nifer o wleidyddion wedi llongyfarch Wrecsam ar ennill y statws fore Gwener, gan gynnwys y Prif Weinidog ac arweinydd y brif wrthblaid yn y Senedd.
Llongyfarchiadau mawr i Wrecsam ar ddod yn ddinas! 🏙️🏴
— Mark Drakeford (@PrifWeinidog) May 20, 2022
Big congratulations to Wrexham on becoming Wales’s seventh city! 🏙️🏴https://t.co/KHWeNJZad8
Congratulations to Wrexham on becoming a city💪🏴 https://t.co/kxbBrhTn8Y
— Andrew RT Davies (@AndrewRTDavies) May 20, 2022
Fantastic to see the place I was born and raised in finally made a city! Congratulations #Wrexham! https://t.co/gMwAc3vVF5
— Jane Dodds AS/MS 🔶🇺🇦 (@DoddsJane) May 20, 2022
Mae'r gystadleuaeth wedi ei chynnal ymhob un o'r tair Jiwbilî ddiwethaf, gyda Casnewydd yn eu plith fel un o'r enillwyr.
Un sydd wedi llongyfarch y ddinas ydy Stifyn Parri, diddanwr sy'n wreiddiol o Rhosllannerchrugog ger Wrecsam.
Dywedodd: "Da iawn Wrecsam, a llongyfarchiadau i bawb sydd yn byw yn ardal. Mae Wrecsam ar y blaen."
'Hanes arbennig a dyfodol cyffrous' i Wrecsam
Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart, bod gan "Wrecsam hanes arbennig a dyfodol cyffrous felly dwi wrth fy modd ei bod hi'n cael ei huwchraddio i statws dinas fel rhan o ddathliadau Jiwbilî Platinwm y Frenhines.
“Mae cymaint y gall Wrecsam fod yn falch ohono eisoes, a dwi'n gobeithio y gall statws dinas ddod â mwy o gydnabyddiaeth i bopeth y gall y gymuned ei gynnig a dod â chyfleoedd pellach ar gyfer ffyniant a thwf Wrecsam.”
Dywedodd yr Ysgrifennydd Diwylliant, Nadine Dorries, bod "statws dinas yn glod enfawr a dwi'n llongyfarch yr wyth enillydd. Mae'r gystadleuaeth hon yn dangos Prydain a'r tiriogaethau tramor ar eu gorau a bydd yn waddol parhaol i Jiwbilî Platinwm y Frenhines."
Fe wnaeth ceisiadau gael eu hagor y llynedd, ac fe wnaeth bron i 40 o leoliadau yn y Deyrnas Unedig a thu hwnt wneud cais i gael statws dinas. Panel o arbenigwyr a gweinidogion y Cabinet oedd yn eu dadansoddi cyn rhoi eu hargymhellion ymlaen i'r Frenhines.
Llun: Wikimedia Commons