
'O leiaf mae tad o Wcráin yn gwybod bod ei wraig a'i blant yn saff'
'O leiaf mae tad o Wcráin yn gwybod bod ei wraig a'i blant yn saff'

Mae Anna Pikhotenko yn edrych yn llawen tra'n eistedd wrth fwrdd y gegin ar fore heulog.
Mae wedi bod dros fis ers iddi ffoi o'i mamwlad yn Wcráin gyda'i phlant yn dilyn ymosodiad Rwsia ar y wlad ar ddiwedd Chwefror.
Yn ôl y Cenhedloedd Unedig, mae dros 12 miliwn o bobl Wcráin wedi ffoi o'u cartrefi ers dechrau'r rhyfel - yr argyfwng ffoaduriaid gwaethaf yn Ewrop ers yr Ail Ryfel Byd.
Bu'n rhaid i Anna a'i phlant, Yulia yn 12 oed a Yana sydd yn wyth, ddianc o'u cartref yn Zaporizhzhia yn ne'r wlad, ardal sydd wedi dioddef ymosodiadau difrifol gan luoedd Rwsia.

Mae bellach wedi cael lloches gyda theulu Sara Owen, sydd yn wreiddiol o Gaerdydd, ym Mryste.
Mae Sara a'i theulu ymhlith miloedd ar draws y DU sydd wedi gwneud cais i groesawu ffoaduriaid o Wcráin i'w cartrefi.
Dywedodd Anna ei bod yn falch fod Sara wedi bod yn fodlon i agor ei chartref.
"Dwi'n hapus iawn, ac mae fy mhlant yn hapus iawn," meddai.
"Ac mae fy ngŵr yn hapus hefyd oherwydd mae'n gwybod bod y plant yn saff."
'Anodd aros'
Ond roedd y broses i gyrraedd y DU yn un hir ac anodd i deulu Anna.
Bu'n rhaid iddynt dreulio pythefnos yn byw yng Ngwlad Pwyl wrth gwblhau eu cais am fisa.
Yn ôl Sara, roedd hefyd yn sialens ar eu hochr nhw.
"Mae 'na lot o waith i ddechrau hefo o ran papurau," meddai.
"Ond wedyn mae angen jyst aros, a dyna'r peth sydd mwyaf caled achos maen nhw'n dibynnu arnom ni am rywle i fyw a 'dan ni ddim yn gwybod pa mor hir bydd hi'n cymryd.
"Oedd e'n anodd 'neud i'r teulu teimlo fel ma' 'na sicrwydd bydde chi yn cael dod, mae jyst rhaid aros."
Mae Anna a'i phlant bellach wedi byw gyda Sara a'i gwr a thri o blant am dair wythnos.
Mae Yana a Yulia wedi ymuno gyda'r ysgol leol ac mae Anna yn mynychu gwersi Saesneg yn gyson.
Mae merch 12 oed Sara, Megan, hefyd wedi dechrau dysgu Wcrainaidd ar Duolingo.
Yn ôl Anna, mae'r croeso wedi bod yn un cynnes iawn gan Sara a'r gymuned leol.
"Mae fy mhlant yn hapus iawn gyda'r ysgol newydd, mae'n ffantastig," meddai.
"Mae pobl wedi bod yn garedig iawn i fy mhlant a chyfeillgar gyda fy mhlant."
Gyda theulu Anna yn setlo mewn yn dilyn cyfnod brawychus, mae teulu Sara hefyd wedi bod yn addasu i'r drefn newydd.
"Ni'n deulu mawr, a dwi'n dod o deulu mawr, felly ni 'di arfer cael lot o bobl yn y tŷ," dywedodd.
"Ond mae 'na lot o esgidiau gydag wyth o bobl yn y tŷ, ac mae 'na lot o goginio sydd angen 'neud gydag wyth o bobl yn y tŷ."

Er gwaethaf unrhyw sialensiau, mae Sara yn falch ei bod wedi croesawu Anna i'w chartref er mwyn gwneud gwahaniaeth bach i'r rhai sydd yn dioddef yn Wcráin.
Mae gŵr Anna, Kosta, dal i fod yn Wcráin ynghyd a'i rhieni a'i brawd.
Mae Sara yn gobeithio nad oes rhaid i Kosta pryderu dros ddiogelwch ei wraig a'i blant o leiaf.
"Ni'n ffodus i fyw mewn tŷ weddol fawr, dyma ffordd ni o allu helpu," meddai.
"Mewn rhyw ddarn bach o Wcráin mae 'na dad fan 'na, sydd o leiaf yn gwybod bod ei wraig a'i blant yn saff."