Brexit: Cael gwared ar rannau o brotocol Gogledd Iwerddon yn 'gyfreithlon'

Mae disgwyl trafodaethau brys rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd ar Brotocol Gogledd Iwerddon ddydd Iau wrth i weinidogion ystyried a ddylid diystyru rhannau o’r cytundeb ar ôl Brexit.
Mae gweinidogion Llywodraeth y Du wedi derbyn cyngor cyfreithiol sy'n awgrymu bod modd diystyrru rhannau o’r cytundeb ôl-Brexit ar gyfer Gogledd Iwerddon.
Dywed swyddfa'r Twrnai Cyffredinol fod cyngor blaenorol ar y cytundeb bellach wedi newid gan fod rhwygiadau gwleidyddol yn gyfrifol am achosi aflonyddwch cymdeithasol.
O ganlyniad, y gred yw y gallai Llywodraeth y DU geisio bwrw ymlaen gyda chynllun i ddileu gwiriadau ar nwyddau o Brydain i Ogledd Iwerddon.
Darllenwch y stori'n llawn yma.