Pryderon am restrau aros ar gyfer deintyddion
Pryderon am restrau aros ar gyfer deintyddion

Mae pryderon wedi eu codi dros y nifer cynyddol o bobl sydd ar restr aros ar gyfer apwyntiad deintydd yn sgil pandemig y coronafeirws.
Yr wythnos hon, cafodd adroddiad ei gyhoeddi gan Gyngor Iechyd Cymuned Bae Abertawe yn nodi'r nifer "annerbyniol" o bobl sydd mewn poen oherwydd prinder deintyddion.
Yn ôl ystadegau diweddar, mae dros 11,000 o bobl yn aros am apwyntiad deintydd ar draws byrddau iechyd Caerdydd a'r Fro, Cwm Taf Morgannwg a Phowys.
Dywedodd un deintydd wrth Newyddion S4C fod rhaid iddynt flaenoriaethu'r cleifion sydd angen triniaeth fwyaf oherwydd y rhestrau hir.
"Y pryder ydy, mae’r blaenoriaeth yn mynd i cleifion sydd efo anghenion brys, felly ’dan ni’n gorfod gweld y cleifion sydd efo anghenion arferol, neu rwtîn, yn llai aml," meddai Tristan Roberts, sy’n ddeintydd yng Nghaerdydd.
"Y broblem sydd gennym ni ar y foment ydy achos bod ’na gymaint o bobl wedi dweud bod nhw’n methu ffeindio deintydd, methu cael gafael ar ddeintydd, mae hwn wedi bod yn broblem ers y degawd diwetha’, os nad yn hirach."
"Y problem ydy does dim mwy o fuddsoddiad, felly ychydig iawn o fuddsoddiad sydd wedi mynd i mewn i ddeintyddiaeth yn ystod yr amser yma.
"Er mwyn gallu rhoi siawns i’r cleifion yma weld deintydd, mae’n rhaid i ni newid strwythur o sut ’dan ni’n gweld cleifion arferoli roi lle i’r practisiaid gallu cymryd y bobl newydd yma i fewn."
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod y pandemig wedi cael effaith fawr ar waith deintyddion a'u bod wedi buddsoddi £3m ychwanegol ym mis Tachwedd i gefnogi adferiad y gwasanaeth deintyddol.