Y gwleidydd Ben Lake yw llywydd Prifwyl Ceredigion

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi mai Aelod Seneddol Ceredigion, Ben Lake, fydd Llywydd yr Ŵyl Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion fis Awst eleni.
Bydd yn annerch y gynulleidfa o lwyfan y Pafiliwn ar Faes y Brifwyl, yn ystod wythnos yr Eisteddfod a fydd yn cael ei chynnal ar faes ger Tregaron o 30 Gorffennaf – 6 Awst.
Wedi ei fagu yn Llanbedr Pont Steffan, daw teulu Ben Lake o ardal Llanddewi Brefi a Chastellnewydd Emlyn. Mae e bellach byw yn ardal Ciliau Aeron yng Ngheredigion.
Mae Ben Lake yn Is-gadeirydd Pwyllgor Materion Cymreig San Steffan ac yn llefarydd Plaid Cymru yn San Steffan ar ddiwylliant.
Elin Jones - Llywydd Y Senedd a'r aelod o Blaid Cymru sy'n cynrychioli Ceredigion yn Y Senedd yw Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Ceredigion 2022.
Mae Ben Lake yn dilyn ôl troed y DJ Huw Stephens, yr hanesydd Elin Jones, cyn-reolwr cynorthwyol tîm pêl-droed dynion Cymru Osian Roberts, a'r darlledwr Dylan Jones sydd hefyd wedi bod yn llywyddion y brifwyl yn ystod y blynyddoedd diwethaf.