Jamie Wallis: AS Pen-y-bont ar Ogwr yn ymddangos o flaen llys ynadon

Mae Aelod Seneddol Pen-y-bont ar Ogwr wedi ymddangos o flaen Llys Ynadon Caerdydd ddydd Mawrth.
Mae Jamie Wallis wedi ei gyhuddo o bedwar trosedd gyrru yn sgil gwrthdrawiad fis Tachwedd y llynedd.
Mae Mr Wallis wedi pledio'n ddieuog i'r pedwar cyhuddiad yn ei erbyn.
Roedd swyddogion Heddlu De Cymru yn ymchwilio i wrthdrawiad yn Llanfleiddan ger Y Bont-faen yn ystod oriau man 28 Tachwedd.
Mae Mr Wallis, 37 oed, wedi ei gyhuddo o fethu â stopio yn dilyn gwrthdrawiad, methu ag adrodd gwrthdrawiad, gyrru heb ofal priodol a gadael cerbyd mewn lleoliad peryglus.
Fe gafodd Mr Wallis ei ethol i gynrychioli etholaeth Pen-y-bont ar Ogwr yn San Steffan yn 2019.
Llun: David Woolfall