Gogledd Iwerddon: Galw ar bleidiau i rannu grym wedi buddugoliaeth Sinn Féin

Mae arweinydd Sinn Féin Michelle O’Neill wedi galw ar bleidiau gwleidyddol yng Ngogledd Iwerddon i gydweithio er mwyn llywodraethu yn y dalaith.
Dywedodd y bydd ei phlaid yn Stormont fore Llun a “mae angen i bleidiau eraill wneud yr un peth."
Ychwanegodd: “Byddwn ni yn rhoi parch i bawb ac yn disgwyl parch hefyd.”
Daw hyn yn sgil buddugoliaeth hanesyddol Sinn Féin fel y blaid fwyaf yng nghynulliad Gogledd Iwerddon.
Mae Sinn Féin wedi ennill 27 o seddi gyda phlaid unoliaethol y DUP yn ennill 25.
Mae’r canlyniad yn golygu bydd arweinydd y cynulliad yn dod o rengoedd plaid weriniaethol am y tro cyntaf mewn dros ganrif.
Mae Taoiseach Iwerddon a llywodraeth yr UDA wedi galw ar y pleidiau i gydweithio i ffurfio llywodraeth.
Darllenwch fwy yma.
This has been an historic election.
— Michelle O’Neill (@moneillsf) May 7, 2022
An election of real change.
I will lead the Sinn Féin team to Stormont on Monday, ready to get the Executive up and running right away.
To put money in people’s pockets.
To invest in our health service.
And to build a better future for all pic.twitter.com/orrFtCIVwl