Llys Apêl i adolygu dedfryd llofrudd Sarah Everard

Fe fydd dedfryd llofrudd Sarah Everard, Wayne Couzens, yn cael ei adolygu yn y Llys Apêl ddydd Mercher.
Bydd barnwyr hefyd yn clywed heriau i ddedfrydau pedwar llofrudd arall - tad a llysfam Arthur Labinjo-Hughes, llofrudd dwbl Ian Stewart a'r llofrudd plentyn Jordan Monaghan.
Bydd y llys o bump o farnwyr yn ystyried sut mae dedfrydau gydol oes yn cael eu cyflwyno, er na fydd eu dyfarniad yn cael ei rannu tan yn ddiweddarach.
Fe fydd cyn-swyddog Heddlu'r Met Couzens yn ceisio apelio ar ôl cael gwybod y bydd yn marw yn y carchar am herwgipio, treisio a llofruddio Ms Everard.
Darllenwch fwy yma.