Newyddion S4C

Beirniadu dau gorff diwylliannol am wrthod enwi awduron adroddiad dylanwadol

Beirniadu dau gorff diwylliannol am wrthod enwi awduron adroddiad dylanwadol

NS4C 05/05/2022

Mae dau sefydliad diwylliannol blaenllaw wedi gwrthod enwi awduron adroddiad damniol sydd yn dweud eu bod yn "cynnal ideoleg goruchafiaeth wyn”. 

Fis Awst diwethaf, comisiynodd Cyngor Celfyddydau Cymru ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru adroddiad ar y cyd gan Welsh Arts Anti-Racist Union (WAARU) i edrych ar "gynrychiolaeth pobl ddu a chroenliw nad ydynt yn Ddu" yn y celfyddydau yng Nghymru.

Roedd yr adroddiad yn dweud na allai'r Amgueddfa na’r Cyngor "dderbyn fod angen i’r sefyllfa hiliol gyfredol newid heb hefyd dderbyn eu rôl ym mharhad y sefyllfa honno."

Dywedodd ymgynghorydd elusennau blaenllaw wrth Newyddion S4C ei bod yn “anarferol” i beidio ag enwi awduron adroddiadau o’r fath.

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn dweud fod ganddyn nhw “ddyletswydd i ddiogelu data personol" a'u bod wedi derbyn sylwadau “hynod o hiliol” yn y gorffennol ac roeddynt am “amddiffyn unigolion rhag sylwadau o’r fath”.

Cam 'anarferol'

Cafodd adroddiad dylanwadol WAARU ei gyhoeddi ym mis Awst 2021 heb enwau'r rhai oedd wedi ei ysgrifennu.

Prif ganfyddiadau’r ddogfen oedd bod Amgueddfa Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru yn "cynnal ideoleg goruchafiaeth wyn". Roedd hefyd yn dweud bod polisïau i hybu’r Gymraeg yn dieithrio rhai artistiaid du a chroenliw.

Mae peidio cyhoeddi enwau awduron adroddiadau i gyrff cyhoeddus yn “anaferol”ac yn codi cwestiynau sylfaenol yn ôl Dr Martin Price, sy’n cynghori elusennau, y trydydd sector a busnesau o safbwynt llywodraethiant.

Mae gan Dr Price brofiad eang mewn ysgrifennu adroddiadau a gwneud ymchwil i gyrff cyhoeddus. Trwy beidio enwi’r awduron does dim modd dod i wybod mwy am ba mor gymwysedig oedd WAARU i wneud y gwaith, meddai.

“Y broblem ynglŷn â methu cysylltu gydag awduron yr adroddiad yw nad oes modd gwybod yr hyn maen nhw yn credu. Ydyn nhw yn academwyr? Ydyn nhw yn ymarferwyr? Ydyn nhw yn ymgynghorwyr?

"Pa bethau eraill maen nhw wedi gwneud? Felly allwch chi ddim edrych ar y peth a gwneud penderfyniad ynglŷn â pha mor ddilys yw’r hyn maen nhw’n dweud.”

Gwaith ymchwil

Pan wnaeth WAARU eu gwaith ymchwil roedd yna ddau adroddiad arall hefyd wedi eu comisiynu gan Amgueddfa Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru.

Roedd un gan Richie Turner and Associates oedd yn edrych ar brofiadau pobl fyddar ac anabl o safbwynt eu hymwneud a’r byd celfyddydol. Y corff Recognition wnaeth yr ymchwil arall oedd yn holi pobl mewn cymunedau o dan anfantais.

Mae enwau awduron y ddau adroddiad yma wedi eu nodi ynddynt, gyda’u manylion cyswllt yn llawn.

Dim ond enw WAARU sydd ar yr adroddiad am hiliaeth, ac nid yw enwau'r awduron yn ymddangos ynddo.

Dywed Cyngor Celfyddydau Cymru eu bod yn cyhoeddi "adroddiadau dan delerau ac enw'r rhai a gomisiynwn i ddarparu’r gwasanaeth".

Dywedodd Dr Martin Price wrth Newyddion S4C: “Roedden nhw yn agored ynglŷn â’r ddau adroddiad arall. Mae yna ddadleuon llosg ynglŷn ag anableddau. Mae yna hefyd ddadleuon llosg ynglŷn â hîl.

"Dwi ddim yn siŵr pam fod y rheol gwarchod data yn cael ei weithredu gydag un a dim y rhai eraill.”

Awduron

Er i Newyddion S4C wneud cais o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth i Gyngor Celfyddydau Cymru ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru am wybodaeth am enwau awduron yr adroddiad, mae’r ddau gorff wedi gwrthod datgelu enwau’r rhai oedd yn gyfrifol.

Yn ôl llefarydd ar ran Cyngor Celfyddydau Cymru ac Amgueddfa Cymru mae yna “gyfrifoldeb i gadw data personol unigolion yn ddiogel ac yn unol â dymuniad unigolyn ac egwyddorion Deddfau GDPR a Gwarchod Data”.

Maent hefyd yn dweud eu bod wedi derbyn sylwadau “hiliol erchyll” yn y gorffennol a'u bod eisiau “gwarchod unigolion rhag dioddef y fath atgasedd”.

Taliadau

Mae cais rhyddid gwybodaeth Newyddion S4C yn dangos fod saith unigolyn o fewn WAARU wedi eu talu am y gwaith yn hytrach nag un corff. Y swm dalwyd oedd £25,762 gydag un person yn derbyn £14,262.

Mae talu sawl unigolyn medd Dr Martin Price yn “anghyffredin”. Yr hyn fyddai ef yn disgwyl fyddai bod y Cyngor Celfyddydau ac Amgueddfa Cymru yn talu un corff ac yna'r mudiad hwnnw wedyn yn talu’r unigolion.

Ond anghytuno mae Cyngor Celfyddydau Cymru ac Amgueddfa Cymru gan ddweud bod “gweithwyr llawrydd yn aml yn cyfuno eu sgiliau a phrofiadau i ymgeisio am dendrau a darparu gwasanaethau yn y sector celfyddydol. Mae’n ffordd adeiladol a chreadigol o weithio sy’n amlach na pheidio yn cynnig datrysiadau gwerth chweil a gwerth gorau am arian.”

Codi cwestiynau wna Dr Martin Price hefyd am arddull yr adroddiad.

“Mae holl naws yr adroddiad yn fwy tebyg i bolemig nag adroddiad. Fel arfer pan rydych chi'n gwneud adroddiad mae ganddoch chi fater i ddelio gydag ef, rydach chi’n penderfynu ar y fethodoleg, yna rydych chi’n gwneud y gwaith a dod i gasgliad a gwneud argymhellion.

"Mae hwn wedi ei eirio bod nhw’n ‘mynnu’ hyn ar llall sy’n anarferol. Fe fydde rhywun wedi disgwyl gweld argymhellion a chasgliadyn hytrach na mynnu hyn a’r llall oddi wrth y ddau gorff gomisiynodd y gwaith.”

Methodoleg

Mae yna gwestiynau hefyd meddai ynglŷn â’r fethodoleg a ddefnyddiwyd yn yr ymchwil gan y Welsh Arts Anti-Racist Union.

‘Ansoddol’ yw’r ymchwil meddai Dr Price, gyda 22 o bobl wedi eu holi. Does dim llawer o wybodaeth ynglŷn â pha fath o artistiaid ydyn nhw nac yn lle maen nhw wedi eu lleoli yng Nghymru.

Ychwanegodd Martin Price: “Yr hyn sydd yn anodd i ddehongli o’r adroddiad yma yw pa mor gynrychioladol ydyn nhw. Yn amlwg mae'r rhain yn bobl sydd wedi cael y profiadau yma. Ydy'r rhain yn brofiadau cyffredin gyda Chyngor y Celfyddydau a’r Amgueddfa neu ddim yn gynrychioladol am fod y niferoedd yn reit fychan?”

Wrth ymateb i sylwadau Dr Martin Price dywedodd Cyngor Celfyddydau Cymru ac Amgueddfa Cymru bod tendr wedi ei wneud ym mis Mehefin 2020 yn gofyn am “sgyrsiau ymchwil dwys” i edrych ar sut i wneud y celfyddydau a diwylliant yn fwy cynhwysol. 33 ymateb a gafwyd ac fe gafodd tri mudiad eu dewis i gynnal tair astudiaeth.

“Sicrhaodd y tri sefydliad mai cymunedau oedd wrth wraidd yr ymchwil. Defnyddiwyd dull gweithio gwahanol iawn ar gyfer y tri adroddiad. Roedd y dulliau gweithio a ddefnyddiwyd yn canolbwyntio ar gydweithio â chymunedau yn hytrach nag alldynnu safbwyntiau. 

"Arweiniodd hyn at ystod o ganfyddiadau ac argymhellion pwysig iawn ac adroddiadau yn amrywio mewn arddull. Roeddem yn fodlon iawn gyda methodolegau gwahanol y tri sefydliad.” meddai’r llefarydd.

Does gan WAARU ddim gwefan ac mae eu cyfrif Twitter ar glo. Fe wnaeth Newyddion S4C geisio cysylltu gyda nhw ar e-bost dair gwaith ond heblaw am e-bost awtomatig yn ôl ni ddaeth ymateb pellach.

Fe wnaeth Newyddion S4C hefyd gais i dri o aelodau o Senedd Cymru am gyfweliad ynglŷn â’n canfyddiadau a sylwadau Dr Martin Price ond gwrthod wnaeth y tri.

Yn sgil cyhoeddi'r adroddiad fe ddywedodd Cyngor Celfyddydau Cymru ac Amgueddfa Cymru ym mis Chwefror y byddant yn gweithredu cynllun i ehangu mynediad i holl gymunedau Cymru.

Dywed y llefarydd bod yna angen am “newid sylfaenol a gweithredol” o fewn y ddau sefydliad.

“Mae'r adroddiadau a gomisiynwyd, a'r hyn a glywsom gan ein cymunedau, yn allweddol wrth i ni sicrhau newid go iawn ar gyfer y dyfodol.” 

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.