Newyddion S4C

Rwsia-Wcrain

Y DU i anfon £300m o gymorth milwrol newydd i Wcráin

Sky News 03/05/2022

Bydd y Deyrnas Unedig yn anfon rhagor o gymorth milwrol gwerth £300m i Wcráin, wrth i'r gwrthdaro gyda Rwsia barhau. 

Mae'r cymorth yn cynnwys sawl cerbyd milwrol yn ogystal ag offer trydanol fel arfau gwrth GPS a radar. 

Daw'r cymorth wrth i Boris Johnson wneud araith i Senedd Wcráin ddydd Mawrth - yr arweinydd tramor cyntaf i wneud ers dechrau'r gwrthdaro. 

Bydd y Prif Weinidog yn canmol ymdrechion gwleidyddion Wcráin gan ddweud bod y DU yn "falch i fod ymysg eu ffrindiau." 

Mae arlywydd Wcráin, Volodymyr Zelensky, eisoes wedi apelio at y DU am ragor o gymorth wrth i'r ymladd barhau'n ffyrnig yn y wlad.

Mae Rwsia wedi lansio rhagor o ymosodiadau yn y de, yn enwedig yn ninas Mariupol, lle mae dros 100,000 o bobl gyffredin wedi bod yn sownd ers dechrau'r gwrthdaro. 

Darllenwch y stori'n llawn yma

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.