Newyddion S4C

Madeleine McCann

Dyn sydd o dan amheuaeth yn niflaniad Madeleine McCann yn dweud fod ganddo alibi

Sky News 02/05/2022

Mae'r dyn sy'n cael ei amau o gipio Madeleine McCann ym Mhortiwgal yn mynnu ei fod filltiroedd o'r ardal lle diflannodd y ferch dair oed, 15 mlynedd yn ôl.

Yn ôl Sky News, mae'r Almaenwr sy'n cael ei adnabod fel Christian B yn dweud fod ganddo alibi. 

Mae'n honni ei fod e gyda dynes ifanc mewn fan wersylla ar y pryd.

Mae'n dweud iddo yrru'r ddynes i faes awyr Faro yn ddiweddarach ac iddyn nhw gael eu hatal gan yr heddlu a oedd wedi gosod rhwystrau ar ffordd gerllaw. 

Mae'n honni hefyd i'r ddynes ifanc o'r Almaen gael ei harestio yn y maes awyr, cyn ymddangos mewn llys yn ddiweddarach. 

Rhagor o fanylion yma.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.