Gareth Bale yn colli dathliadau Real Madrid oherwydd anaf i’w gefn

Gareth Bale oedd yr unig chwaraewr i fethu ag ymuno yn nathliadau Real Madrid wrth iddyn nhw ennill cynghrair La Liga yn Sbaen.
Dywedodd capten tîm pêl-droed Cymru ar y cyfryngau cymdeithasol ei fod yn siomedig iawn i beidio ag ymuno ond fod ganddo anaf i’w gefn.
Dywedodd Carlo Ancelotti, rheolwr Real fod Bale “yn methu symud’ oherwydd yr anaf.
Mae Real wedi ennill La Liga gyda phum gêm yn weddill o’r tymor. Maen nhw hefyd yn wynebu Manchester City yn ail gymal rownd gynderfynol Cynghrair Pencampwyr Ewrop nos Fercher.
CAMPEONES 🏆💪🏼
— Gareth Bale (@GarethBale11) April 30, 2022
So disappointed that I’m not able to be part of the celebrations this evening due to a bad back spasm but really proud of the team for winning the title! Enjoy tonight boys! #HalaMadrid pic.twitter.com/RbXttKwHSE
Darllenwch y stori yn llawn yma.
Llun: Asiantaeth Huw Evans