Newyddion S4C

Neil Parish

Neil Parish yn ymddiswyddo fel Aelod Seneddol ar ôl cyfaddef iddo wylio pornograffi

Evening Standard 30/04/2022

Mae Neil Parish wedi ymddiswyddo fel Aelod Seneddol yn dilyn honiadau iddo wylio pornograffi yn ystod dadl yn Nhŷ’r Cyffredin. 

Roedd Mr Parish wedi awgrymu ei fod wedi agor fideo pornograffi yn ‘"damweiniol."

Roedd o dan ymchwiliad yn dilyn honiadau gan grŵp o ASau Ceidwadol benywaidd i'r Prif Chwip, Chris Heaton-Harris ei fod wedi gwylio pornograffi yn ystod dadl yn Nhŷ’r Cyffredin. 

Fe wnaeth y Blaid Geidwadol dynnu'r chwip oddi wrth yr AS dros Tiverton a Honiton yn Nyfnaint, a'i wahardd o'r blaid yn sgil yr ymchwiliad. 

Fe wnaeth Mr Parish gyfeirio ei hun at Bwyllgor Safonau'r Tŷ, ac roedd wedi gwrthod galwadau i ymddiswyddo fel Aelod Seneddol.

Dywedodd y bydd yn parhau gyda’i ddyletswyddau fel AS tra’n “cydweithio’n llwyr” gyda’r ymchwiliad.

Ond daeth o dan bwysau cynyddol gan ei gyd-aelodau seneddol i ymddiswyddo ddydd Sadwrn.

Dywedodd wrth y BBC ei fod yn bwriadu ymddiswyddo ar ôl cyfaddef iddo wylio pornograffi yn Nhŷ’r Cyffredin. 

Darllenwch fwy yma.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.