Etholiadau lleol: Beth yw'r pynciau pwysig i bobl Wrecsam?
Etholiadau lleol: Beth yw'r pynciau pwysig i bobl Wrecsam?

Mae adeilad Y Stiwt wedi ei godi ag arian glowyr Rhosllannerchrugog a’r pentrefi cyfagos.
Mae’n adeilad sy’n symbol o hanes gwleidyddol yr ardal lawn cymaint â’r hanes diwylliannol.
Ac mae hwnnw’n gyfoethog.
Yn Wrecsam, er enghraifft, y cafodd Eisteddfod Powys ei chynnal am y tro cyntaf. Ac fel rhan o’r dathliadau 200 mlwyddiant mae honno’n dychwelyd i’r ardal yn ddiweddarach eleni
Daeargryn
Ond mae materion dydd i ddydd hefyd yn hawlio sylw a rhai o’r rheini’n debygol o gael eu rhedeg gan y cyngor lleol.
Dywedodd un aelod o’r pwyllgor: “Mae busnes y baw ci yma yn dipyn o broblem . . . hefyd sbwriel yn cael ei adael ar ochr y ffyrdd.”
Yn ogystal â materion lleol, mae ‘na berthynas amlwg rhwng yr hyn sy’n digwydd yn ehangach.
Ers iddo gael ei ffurfio yn y 90au, eithriad yw un i blaid fod a rheolaeth lwyr ar Gyngor Wrecsam.
Ar lefel San Steffan, roedd yna ddaeargryn gwleidyddol wedi i’r Ceidwadwyr gipio Tref Wrecsam am y tro cyntaf dair blynedd y nôl.
Ond fe wnaeth Llafur ddal eu tir yn yr etholiad i Senedd Cymru.
Mae gan yr etholwyr wythnos eto cyn penderfynu i bwy y byddant yn rhoi eu pleidlais.