Cyhuddo dyn o lofruddio pedwar aelod o'r un teulu yn Llundain

Mae dyn 28-oed wedi'i gyhuddo o lofruddio pedwar aelod o'r un teulu yn ne Llundain.
Bu farw Dolet Hill, 64, Denton Burke, 58, Tanysha Ofori-Akuffo, 45, a Samantha Drummonds, 27, yn dilyn yr ymosodiad yn Bermondsey.
Cafodd swyddogion eu galw i'r eiddo yn ne Llundain yn oriau man y bore dydd Llun.
Bydd Joshua Jacques, o Lewisham, yn ymddangos yn Llys Ynadon Westminster ddydd Iau.
Darllenwch fwy yma.
Llun: Heddlu'r Met