Apêl am wybodaeth yn dilyn ymosodiad rhyw honedig ar ferch yn ei harddegau yn Llanelli

Mae Heddlu Trafnidiaeth Prydain yn apelio am wybodaeth yn dilyn ymosodiad rhyw honedig ar ferch yn ei harddegau ar drên rhwng Llanymddyfri a Llanelli.
Aeth y ferch ar y trên am 16:40 ar ddydd Sadwrn 26 Mawrth gan eistedd gyferbyn â'r dyn wrth fwrdd.
Yna fe ymosododd y dyn arni "am gyfnod hir".
Mae swyddogion yn credu y gallai'r dyn yn y llun fod gyda gwybodaeth allai fod o gymorth i'w hymchwiliad.
Mae'r heddlu'n gofyn i unrhyw un sydd gyda gwybodaeth i gysylltu gyda Heddlu Trafnidiaeth Prydain drwy ffonio 0800 40 50 40 gan ddefnyddio'r cyfeirnod 538 - 26/03/22, neu ffonio Taclo'r taclau ar 0800 555 111.