Etholiadau lleol: Beth yw'r pynciau pwysig i bobl Powys?
Etholiadau lleol: Beth yw'r pynciau pwysig i bobl Powys?

Mae dros chwarter ardal ddaearyddol Cymru o fewn ffiniau Powys - sir enfawr sy’n ymestyn o Ystradgynlais yn y de, i’r ardal wrth droed mynyddoedd y Berwyn yn y gogledd.
Mae’n sir wledig gyda phoblogaeth wasgaredig, ond mae’r cymunedau wedi’u cysylltu gan y rhwydwaith ffyrdd hiraf yn y wlad.
Mae gan Bowys dros dair mil pedwar can milltir o ffyrdd, y mwyafrif yn ffyrdd bach gwledig.
Fel mewn sawl sir arall mae nifer y cynghorwyr a nifer y wardiau ym Mhowys wedi newid cyn yr etholiad yma.
Bydd nifer y cynghorwyr yn gostwng o 73 i 68 gyda phob cynghorydd yn cynrychioli tua 1500 o etholwyr.
Mae nifer y wardiau yn gostwng i 60, gydag wyth ward yn dewis dau gynghorydd.
Yn nhref Llanfyllin mae tri ymgeisydd - pob un yn cynrychioli plaid wleidyddol, dim ymgeiswyr annibynnol.
O addysg i gyflwr y ffyrdd, o ofal i ailgylchu mae gan y Cyngor gyfrifoldebau eang. Ond beth yw’r pynciau pwysig i bobl Llanfyllin?