Enwi teulu gafodd eu trywanu i farwolaeth yn Llundain

Mae pedwar aelod o'r un teulu gafodd eu trywanu i farwolaeth yn Southwark yn ne Llundain wedi'u henwi'n lleol.
Cafodd Dolet Hill, 64, ei phartner Denton Burke, ei merch Tanysha Drummonds a'i hwyres Samantha Drummonds eu lladd yn ystod y digwyddiad yn oriau man bore dydd Llun.
Yn ôl The Evening Standard, dywedodd nith Ms Hill ei bod yn "fenyw anhygoel" oedd yn gweithio yn y gwasanaeth iechyd a newydd wella yn dilyn triniaeth ar gyfer canser.
Mae dyn yn ei 20au wedi ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth yn gysylltiedig â'r ymosodiad.
Darllenwch fwy yma.
Llun: Facebook