Heddlu’n ymchwilio i achos o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth dynes yn Ynys Môn

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau eu bod yn trin marwolaeth dynes o Ynys Môn fel achos o lofruddiaeth.
Fe gafodd corff dynes ei ddarganfod mewn eiddo preswyl ym mhentref Rhydwyn ger Caergybi ddydd Gwener diwethaf.
Mae unigolyn a gafodd ei arestio bellach wedi ei ryddhau ar fechnïaeth amodol gan yr heddlu ac mae ymholiadau yn parhau.
Dywedodd Ditectif Brif Uwch-arolygydd, Gareth Evans, bod hyn yn "amser ofnadwy i'r teulu a ffrindiau. Mae ein meddyliau gyda nhw ac mae'r teulu yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.
"Hoffwn ddiolch i aelodau o'r gymuned leol yn ogystal â'r cyhoedd yn ehangach am y wybodaeth y maent wedi ei ddarparu hyd yma."
Ychwanegodd Mr Evans y bydd swyddogion lleol yn parhau â'u hymholiadau yn yr ardal yr wythnos hon, ac ar hyn o bryd, mae'r digwyddiad yn cael ei drin fel un ynysig heb fygythiad ehangach i'r cyhoedd.
Mae'r heddlu yn awyddus i siarad ag unrhyw un a oedd yn teithio mewn cerbyd a allai fod â thystiolaeth o gamerâu dashfwrdd o Ogledd Orllewin Ynys Môn rhwng oriau man y bore dydd Gwener, 22 Ebrill a dechrau'r prynhawn.
Mae gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu drwy ddefnyddio'r cyfeirnod B056492.