O leiaf pump wedi marw wedi i luoedd Rwsia ymosod ar ddinas Odessa

Mae o leiaf pum person wedi marw, gan gynnwys babi tri mis oed, wedi i Rwsia lansio ymosodiad ar Odessa yn ne Wcráin.
Mae awdurdodau'r wlad wedi cadarnhau bod 18 o bobl hefyd wedi eu hanafu ar ôl i Rwsia danio taflegrau at ganolfannau milwrol ac adeiladau preswyl.
Dyma'r tro gyntaf i Rwsia ymosod ar Odessa ers dechrau mis Ebrill.
Mae'n nodi newid yng nghynlluniau'r Kremlin wedi i filwyr Rwsia encilio o'r brifddinas Kyiv bythefnos yn ôl.
Mae Rwsia bellach wedi dechrau ymgyrch yn ne Wcráin, gydag un arweinydd milwrol yn datgan fod lluoedd Rwsia'n bwriadu cymryd rheolaeth barhaol dros yr ardal.
Darllenwch fwy yma.