Gohirio achos llys dyn wedi ei gyhuddo o lofruddio ei dad

Mae achos llys dyn sydd wedi ei gyhuddo o lofruddio ei dad - oedd yn ŵr busnes yng Ngwynedd - wedi cael ei ohirio.
Roedd achos Tony Thomas, 45 oed, o Minffordd, Penrhyndeudraeth i fod i gael ei gynnal ddydd Llun, 25 Ebrill.
Mae wedi cael ei gyhuddo o lofruddio ei dad, Dafydd Thomas, 65 oed, cyn-gyfarwyddwr cwmni gwastraff amgylcheddol GEWS ar 25 Mawrth y llynedd.
Fe ymddangosodd Tony Thomas yn Llys y Goron, yr Wyddgrug ddydd Iau drwy gyswllt fideo.
Mwy am y stori yma.