Llofruddiaeth Y Fenni: Teyrnged i ddyn 90 oed

Mae teulu dyn 90 oed fu farw ar ôl cael ei ddarganfod y tu allan i dŷ yn y Fenni wedi rhoi teyrnged iddo.
Cafodd Michael Hodson ei gludo i ysbyty mewn ambiwlans, ar ôl cael ei ddarganfod y tu allan i dŷ yn y dref ar ddydd Mawrth, 5 Ebrill.
Bu farw'r Mr Hodson o'i anafiadau ar ddydd Gwener, 8 Ebrill.
Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd ei ferch ei fod yn “ ‘ŵr, tad, llys-dad, tad-cu a ffrind gwych.
“Fe oedd y mwyaf addfwyn o foneddigion – yn garedig ac yn ddiymhongar.
“Roedd hapusaf ym myd natur, wrth ofalu am ei lysiau a phlannu coed. Roedd wrth ei fodd â’i deithiau di-ri i’r Alban lle treuliodd amseroedd hapus gyda ffrindiau ar lannau afonydd.
“Mae’n gadael bwlch enfawr ym mywydau pawb oedd yn ei garu a bydd y sbarc yn ei lygaid yn parhau i ddisgleirio.”
Mae menyw 68 oed o’r Fenni wedi cael ei harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ac ers hynny, mae hi wedi ei rhyddhau ar fechnïaeth amodol.
Mae'r heddlu yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu gan ddefnyddio cyfeirnod 2200115123.