Arestio aelod o staff nyrsio Ysbyty Maelor Wrecsam yn sgil honiadau cam-drin

Mae aelod o staff nyrsio Ysbyty Maelor Wrecsam wedi cael ei arestio yn dilyn honiadau bod claf bregus wedi cael eu cam-drin yno.
Cafodd yr heddlu eu galw gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ar 24 Mawrth ar ôl i bryderon gael eu codi ynghylch claf bregus.
Yn ôl adroddiadau sydd heb eu cadarnhau gan y Bwrdd Iechyd na Heddlu’r Gogledd, roedd y claf wedi baeddu gwely ac wedi cael eu ffilmio gan aelod o staff.
Roedd honiad pellach hefyd fod y fideo wedi ei rannu yn ddiweddarach mewn grŵp ar WhatsApp.
Deellir fod y claf bregus dan ofal yr adran henoed.
Dywedodd yr heddlu fod y person gafodd ei arestio wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth tra bo'u hymchwiliad yn parhau.
'Testun ymchwiliad'
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru: “Ar ddydd Iau, 24 Mawrth, derbyniom adroddiadau gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr am ddigwyddiad yn ymwneud ag aelod o staff nyrsio yn Ysbyty Maelor Wrecsam.”
Roedd yr adroddiad yn ymwneud â phryderon ynghylch “camdriniaeth posibl" tuag at gleifion a "chamarfer" mewn swydd, yn ôl y llu.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn cynorthwyo swyddogion gyda'u hymchwiliadau ac mae eu hymholiadau'n parhau.
Dywedodd Gill Harris, Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a’r Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Clinigol Integredig: "Cawsom wybod yn ddiweddar am honiadau yn erbyn aelod o staff yn ymwneud â chlaf bregus ac fe gyfeiriom ni’r mater at Heddlu Gogledd Cymru ar unwaith.
"Tra ein bod yn gweithio gyda'r holl awdurdodau perthnasol, mae hyn yn parhau i fod yn fater sy'n destun ymchwiliad gan yr heddlu. Felly ni fyddwn yn gwneud unrhyw sylw pellach ar hyn o bryd."
Bydd rhif llinell gymorth yn weithredol heno gyda neges ddwyieithog, wedi'i recordio ar ffôn ateb i unrhyw un sydd eisiau cysylltu gyda Gwasanaethau Gofal Henoed Ysbyty Maelor Wrecsam sef 03000 846 991.
O 9 o'r gloch bore yfory (dydd Iau) bydd y llinell yn cael ei ateb yn ystod oriau swyddfa gan aelodau o dimau profiad cleifion a chwynion Betsi Cadwaladr.