Nifer wedi eu saethu mewn canolfan siopau yn America

Mae 10 o bobl wedi eu hanafu ar ôl cael eu saethu mewn digwyddiad yn Columbus, prifddinas talaith De Carolina yn yr UDA.
Dywedodd heddlu’r ddinas fod y saethu wedi digwydd mewn canolfan siopau yn y ddinas.
Ychwanegodd prif swyddog heddlu’r ddinas, William Holbrook, fod y digwyddiad yn ymddangos i fod yn deillio o “anghydfod” rhwng grŵp o bobl arfog oedd yn nabod eu gilydd.
Chafodd neb eu lladd yn y digwyddiad ac roedd dau o’r rhai a saethwyd mewn cyflwr “critigol ond sefydlog” yn yr ysbyty.
Darllenwch fwy yma.
Llun: Heddlu Columbia