San Steffan 'dan fygythiad' gan ysbiwyr Tsieineaidd medd MI5

The Sun 13/01/2022

Mae asiantaeth cudd-wybodaeth MI5 wedi rhybuddio Aelodau Seneddol bod San Steffan o dan fygythiad gan ysbiwyr Tsieineaidd. 

Yn ôl The Sun, mae'r gwasanaethau diogelwch yn honni bod y gyfreithwraig Christine Lee wedi targedu ASau ar ran llywodraeth Tsieina.

Mae honiadau bod Ms Lee wedi ceisio dylanwadu ar yr AS Plaid Lafur Barry Gardiner, yn ogystal â nifer o wleidyddion eraill o wahanol bleidiau. 

Mewn rhybudd i aelodau San Steffan, dywedodd yr MI5 bod Ms Lee wedi "gweithio i geisio dylanwadu gwleidyddion ar gyfer y Blaid Gomiwnyddol Tsieineaidd". 

Mae'r gwasanaethau diogelwch yn ymchwilio i Ms Lee. 

Darllenwch fwy yma