Yr actor Sidney Poitier wedi marw yn 94 oed

The Guardian 07/01/2022

Mae Sidney Poitier, y dyn du cyntaf i ennill gwobr Actor Gorau yn yr Oscars, wedi marw yn 94 oed.

Cafodd y newyddion ei gyhoeddi gan ddirprwy brif weinidog y Bahamas, Fred Mitchell, brynhawn dydd Gwener.

Cafodd yr actor dylanwadol ei eni ym Miami a'i fagu yn y Bahamas tan yr oedd yn 15 oed.

Enillodd yr Oscar am ei berfformiad yn ffilm 'Lilies of the Field' yn 1963, gan agor y drws i actorion du ddilyn ei lwyddiant yn Hollywood.

Ymysg ei ffilmiau mwyaf adnabyddus oedd 'The Defiant Ones', 'Porgy and Bess' a 'Guess Who’s Coming to Dinner?'

Darllenwch y stori'n llawn yma.