Joe Biden i roi'r bai ar Donald Trump am anhrefn adeilad y Capitol

The Washington Post 06/01/2022

Flwyddyn union ers i gefnogwyr eithafol cyn-arlywydd yr UDA, Donald Trump, ymosod ar adeilad y Capitol yn Washington, mae disgwyl i arlywydd presennol y wlad roi'r bai un uniongyrchol ar Mr Trump mewn araith ddydd Iau.

Y disgwyl yw y bydd yr Arlywydd Joe Biden yn gosod y cyfrifoldeb am y digwyddiad treisgar yn y brifddinas ar ysgwyddau Mr Trump mewn anerchiad yn ddiweddarach medd y Washington Post.

Roedd disgwyl i Donald Trump hefyd wneud cyhoeddiad o'i bencadlys yn Mar-a-largo, Florida, ddydd Iau, ond fe gafodd y trefniant hwnnw ei ohirio gan fod pryderon gan ei ymgynghorwyr y byddai'n creu ymateb negyddol.

Bu farw pump o unigolion yn ystod yr anhrefn yn adeilad y Capitol ar 6 Ionawr y llynedd. Darllenwch y stori'n llawn yma.