Peter Wright yn ennill Pencampwriaeth Dartiau'r Byd am yr ail dro

NS4C 04/01/2022

Mae’r Albanwr Peter Wright wedi ennill Pencampwriaeth Dartiau'r Byd y PDC am yr ail dro wedi iddo drechu Michael Smith o Loegr yn y rownd derfynol nos Lun. 

Mewn cystadleuaeth agos yn Alexandra Palace yn Llundain, fe lwyddodd yr Albanwyr i ennill naw allan o'r 10 set olaf i sicrhau buddugoliaeth o 7-5. 

Dyma'r ail dro mewn tair blynedd i Wright ennill tlws Sid Waddell yn dilyn ei fuddugoliaeth gyntaf yn 2020.

Bu'n noson rwystredig i Smith, a drechodd y ddau Gymro, Johnny Clayton a Gerwyn Price ar y ffordd i'r ffeinal, ond dyma’r wythfed tro iddo golli mewn rownd derfynol cystadleuaeth fawr.