Archesgob Cymru: Y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn 'heriol tu hwnt'

Archesgob Cymru: Y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn 'heriol tu hwnt'

Newyddion S4C 25/12/2021

Mae Archesgob Cymru wedi dweud fod y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn "heriol tu hwnt" yn ei neges Nadolig ar gyfer 2021. 

Dywed Y Parchedicaf Andy John, "rwy'n ymwybodol o'r bobl sydd wedi colli rywun a'r ffaith bod ein bywydau ni gyd wedi bod yn heriol". 

Ond, mae'n ychwanegu mai ei neges eleni yw "nad oes neb yn unig" mewn bywyd gyda Duw. 

"Duw gyda ni ydy'r neges ar gyfer y Nadolig. I ni'n credu mewn Iesu a anwyd fel baban bach ac felly nad oes neb yn unig.

"Mae na gyfle i ni gofio eleni bod Duw gyda ni felly dyma fy ngweddi i ar ein cyfer ni ledled Cymru bod ni gyd yn cofio y Duw sydd yn Iesu gyda ni.