Achos cyntaf o'r amrywiolyn Omicron wedi ei gadarnhau yng Nghymru
Achos cyntaf o'r amrywiolyn Omicron wedi ei gadarnhau yng Nghymru
Mae'r achos cyntaf o amrywiolyn Omicron wedi ei gadarnhau yng Nghymru.
Dywed Llywodraeth Cymru fod yr achos yn ardal bwrdd iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, ac mae'n gysylltiedig â theithio rhyngwladol.
Mewn datganiad dywedodd y llywodraeth fod swyddogion yn "barod i ymateb yn gyflym i amrywiolion sy'n peri pryder ac mae ymchwiliadau dwys a chamau cadarn o ran iechyd y cyhoedd ar waith i arafu unrhyw ledaeniad."
Ychwanegodd y datganiad: "Mae effaith yr amrywiolyn Omicron ar iechyd yn dal i gael ei asesu. Ar hyn o bryd nid oes tystiolaeth sylweddol i awgrymu y bydd yr amrywiolyn Omicron yn arwain at fath mwy difrifol o salwch, ond mae sylw manwl a chyson yn cael ei roi i’r data.
"Wrth inni ddod i ddeall yr amrywiolyn hwn yn well, byddwn yn gallu pennu'r camau nesaf. Yn y cyfamser, cadw at y rheolau, dilyn y camau sy'n ein cadw'n ddiogel a manteisio ar y cynnig o frechlyn yw’r ffordd orau o hyd o’n diogelu ni’n hunain a'r GIG."
Mae cryn bryder yn rhyngwladol am allu'r amrywiolyn i osgoi'r system imiwnedd, ac mae astudiaeth newydd yn awgrymu ei fod yn gallu osgoi imiwnedd drwy haint Covid-19 blaenorol "yn sylweddol".
Mae'r canlyniadau'n awgrymu y gallai'r amrywiolyn newydd olygu cynnydd yn y nifer o achosion, hyd yn oed mewn poblogaeth sydd â chyfradd uchel o wrthgyrff.
Dengys yr ymchwil gan wyddonwyr yn Ne Affrica fod y risg o ddal Covid-19 fwy nag unwaith yn is yn ystod tonnau Beta a Delta o'i gymharu â'r don gyntaf ym Mawrth 2020.
Ond, roedd ail-heintio yn y don Omicron 2.4 gwaith yn uwch na thon gyntaf y pandemig.
Mewn cynhadledd i'r wasg ddydd Mawrth i drafod yr ymateb i’r amrywiolyn, dywedodd Gweinidog Iechyd Llywodraeth Cymru, Eluned Morgan, fod yr amrywiolyn newydd yn "ddatblygiad difrifol arall yn y pandemig".
Dywedodd bryd hynny mai dim ond "mater o amser" oedd hi cyn i'r amrywiolyn gyrraedd y wlad.
Ychwanegodd ei fod yn "ddyddiau cynnar" ac y byddai'r llywodraeth yn cadw golwg agos ar y sefyllfa wrth ystyried mwy o gyfyngiadau.