Agor cwest i farwolaeth merch 15 oed o Flaenau Ffestiniog
03/12/2021
Cafodd cwest i farwolaeth merch ysgol 15 oed o Flaenau Ffestiniog ei agor ddydd Gwener.
Cafwyd hyd i gorff Gwenfair Jones mewn coetir yn Nhanygrisiau gan yr heddlu ar 11 Tachwedd.
Clywodd y cwest fod y darganfyddiad wedi ei wneud yn dilyn galwad i'r heddlu am 08:24 gan unigolion oedd yn poeni am ddiogelwch merch leol.
Dywedodd Katie Sutherland, y crwner dros ogledd Cymru, fod y darganfyddiad trasig wedi ei wneud yn Nolrhedyn ger Tanygrisiau.
Cafodd y cwest ei ohirio tra bod ymchwiliadau'n parhau.
Darllenwch y stori'n llawn yma.