Newyddion S4C

Dyn lleol 28 oed wedi marw mewn gwrthdrawiad ger Llangefni

03/12/2021
Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos y nifer o bobl fethodd prawf anadl ym mis Rhagfyr.

Mae Heddlu Gogledd Cymru'n apelio am wybodaeth ar ôl i ddyn farw ac un arall gael ei anafu'n ddifrifol mewn gwrthdrawiad ar Ynys Môn nos Iau.

Cafodd swyddogion eu galw ychydig wedi 17:30 i'r gwrthdrawiad un cerbyd ar ffordd yr A5 rhwng Rhostrehwfa a Thyrpeg Nant ar gyrion Llangefni.

Aeth y gwasanaethau brys i gynorthwyo ond bu farw gyrwr y car, Seat Leon llwyd, yn y fan a'r lle.

Cafodd teithiwr arall yn y car, dyn lleol 25 oed, ei gludo i Ysbyty Gwynedd cyn cael ei symud i ysbyty yn Stoke gydag anafiadau difrifol allai newid ei fywyd.

Dywedodd Sarjant Meurig Jones o Uned Blismona'r Ffyrdd: "Mae ein cydymdeimlad dwysaf gyda theulu'r dyn ar yr adeg anodd yma.

"Mae'r ymchwiliad i geisio darganfod beth ddigwyddodd wedi cychwyn. Rydym yn credu fod y Seat Leon wedi teithio ar ffordd yr A4080 o ardal Tŷ Croes ac yna ar y B4422 gan deithio drwy Llangadwaladr, Bethel a Llangristiolus.

"Yna fe aeth ar hyd yr A5 cyn taro wal ac i mewn i gae cyfagos.

“Rydym yn apelio ar unrhyw un a allai fod wedi bod yn teithio ar hyd y daith yma ac a allai fod wedi gweld y Seat Leon cyn y gwrthdrawiad, neu i unrhyw un a allai fod wedi bod yn yr ardal ac a allai fod â lluniau dash-cam, i gysylltu gyda ni cyn gynted â phosib.”

Mae'r heddlu'n gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu dros y we neu drwy ffonio 101 gan ddyfynnu cyfeirnod 21000837019.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.