Newyddion S4C

Cynnydd 'cwbl annerbyniol' mewn ymosodiadau ar weithwyr brys

03/12/2021
Newyddion S4C

Roedd yna gynnydd o bron i 10% mewn ymosodiadau ar weithwyr gwasanaethau brys yn ystod chwe mis cyntaf eleni, o gymharu â'r un adeg y llynedd.

O ganlyniad mae’r gwasanaethau brys yn galw ar bobl i gefnogi ymgyrch 'Gyda ni nid yn ein herbyn ni' yn yr wythnosau dros gyfnod y Nadolig.

Rhwng Ionawr a Mehefin eleni roedd yna 1,360 o ymosodiadau ar weithwyr brys - plismyn, nyrsys, gweithwyr ambiwlans, meddygon, parafeddygon, staff ateb galwadau a gweithwyr canolfannau prawf Covid-19.

Mae hynny yn gyfystyr ag wyth ymosodiad y dydd ar gyfartaledd.

Roeddent yn cynnwys trais corfforol - cicio, slapio, penio - a hefyd ymosodiadau geiriol gyda nifer o weithwyr wedi dioddef niwed corfforol difrifol.

Roedd dau o bob tri o'r achosion yn ymosodiadau ar blismyn.

Roedd 21 o'r ymosodiadau'n cynnwys rhyw fath o arf.

'Gweithio gyda ni'

Fe ddigwyddodd y nifer fwyaf o ymosodiadau ym mis Mai wrth i'r sector lletygarwch ailagor yn dilyn yr ail gyfnod clo.

Fe ddigwyddodd bron i hanner yr ymosodiadau yn y de ddwyrain, yn bennaf yn ardaloedd Caerdydd, Rhondda Cynon Taf a Phen-y-bont ar Ogwr.

Pobl rhwng 26 a 35 oed oedd yn bennaf gyfrifol ac roedd alcohol yn ffactor yn un o bob tri o'r achosion.

Gyda'r Nadolig yn prysur agosáu - yr adeg o'r flwyddyn pan mae disgwyl y bydd ymosodiadau ar eu gwaethaf - mae gweithwyr brys yn gofyn i'r cyhoedd i’w trin â pharch.

Dywedodd Jason Killens, prif weithredwr Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: "Mae pandemig Covid-19 wedi bod yn gyfnod pryderus i bob un ohonom, ond nid yw hynny'n esgus i ymosod ar weithiwr brys, sy'n fodau dynol sydd dim ond yn ceisio gwneud eu gwaith.

"Mae'r cyfnod cyn y Nadolig yn golygu bod mwy o bobl allan yn mwynhau'r dathlu, a gydag alcohol yn cael ei yfed daw cynnydd mewn ymosodiadau, yn gorfforol ac ar lafar.

"Roedd 60 o ymosodiadau geiriol ar staff ein hystafell reoli ambiwlansys yn chwe mis cyntaf y flwyddyn.

"Rydyn ni'n gwybod ei fod yn ofidus pan fyddwch chi'n aros am gymorth, ond nid camddefnyddio ein trinwyr galwadau yw'r ateb - os rhywbeth, gallai oedi’r cymorth.

"Felly rydym yn gofyn i'r cyhoedd weithio gyda ni, nid yn ein herbyn y Nadolig hwn."

'Effaith seicolegol'

Dywedodd Claire Parmenter, prif gwnstabl dros dro Heddlu Dyfed Powys: "Mae ymosodiadau ar heddweision yn parhau i gynyddu ac mae hyn yn gwbl annerbyniol.

"Mae ymosod yn drosedd drawmatig sy'n achosi gofid mawr i unrhyw un, ac nid yw'n wahanol pan fo'r dioddefwr yn weithiwr brys.

"Ym mis Medi, gwelsom ddyn yn cael dedfryd o 26 wythnos o garchar wedi'i ohirio am ddwy flynedd wedi iddo ymosod yn dreisgar ar ddau o'n swyddogion heddlu a oedd wedi mynd i'w gynorthwyo.

"Yn pryderu am ei ddiogelwch, fe wnaethon nhw roi lifft adref iddo - ac o ganlyniad fe gafodd y ddau eu hanafu'n gorfforol.

"Mae'r effaith seicolegol ar y ddau swyddog yn rhywbeth y byddan nhw'n cymryd amser i wella ohono.

"Yn yr un mis yn unig, cafodd tri swyddog oedd yn cyflawni eu dyletswyddau anafiadau mewn ymosodiad gan y dyn roedden nhw'n ceisio ei arestio.

"Er gwaethaf ymdrechion y troseddwr, llwyddodd y swyddogion i'w arestio er iddynt gael eu gadael gydag anafiadau.

"Ymddangosodd y troseddwr yn y llys y diwrnod ar ôl ei arestio, lle cafodd ei ddedfrydu i 12 mis yn y carchar.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.