Angen ystyried cau ysgolion yn gynnar medd arweinydd Cyngor Gwynedd
Mae angen "ystyried" cau ysgolion am yr wythnos olaf cyn gwyliau'r Nadolig, yn ôl arweinydd Cyngor Gwynedd.
Dywedodd Dyfrig Siencyn fod ffigyrau Covid-19 y sir "yn ddychrynllyd" ac y byddai hyn yn rhoi "toriad bach cyn i ni gyd ddechrau cymdeithasu gyda'n gilydd dros 'Dolig".
Ychwanegodd wrth raglen Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru fod hi'n ymddangos bod y feirws yn "lledaenu trwy'r ysgolion a trwy gymdeithasu tu allan i ysgolion".
Ond, fe ddywedodd y Cynghorydd Siencyn ei bod hi'n "rhaid dilyn y cyngor gwyddonol" wrth wneud penderfyniadau o'r fath.
Dywed Llywodraeth Cymru fod fframwaith wedi ei chyflwyno i alluogi cynghorau sir i symud i ddysgu cyfunol ar lefel awdurdodau lleol neu ysgol.
'Cyrraedd y pegwn'
Dywedodd yr Arweinydd hefyd nad oedd yn rhagweld y byddai unrhyw gyfyngiadau lleol yn cael eu cyflwyno yn yr ardal i gyfyngu ar ledaeniad y feirws.
Gwynedd yw'r sir â'r gyfradd uchaf o achosion Covid-19 yng Nghymru ar hyn o bryd.
Rhwng 21 a 27 Tachwedd, roedd 837.3 achos i bob 100,000 o'r boblogaeth.
Mae'r gyfradd o achosion ar draws Gymru ar gyfartaledd yn 464.5 achos i bob 100,000 o bobl.
"Mae'r darogan yn deud bo ni 'di cyrraedd y pegwn a 'dan ni'n gobeithio byddwn i'n gweld gostyngiadau 'lly", meddai'r Cynghorydd Siencyn.
'Lleihau unrhyw amhariad'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Dylid gwneud penderfyniadau i symud i ddysgu cyfunol ar lefel ysgol ac Awdurdod Lleol, sydd wedi'u llywio gan gyngor ac ystyriaethau iechyd a diogelwch, megis lefelau staffio, er mwyn lleihau unrhyw amhariad ar ddysgwyr.
"Rydym am wneud popeth o fewn ein gallu i darfu cyn lleied a phosib ar addysg a gofal plant. I gefnogi hyn, rydym wedi cyhoeddi fframwaith rheoli heintiau lleol, i helpu ysgolion i weithredu'n ddiogel a theilwra ymyriadau i adlewyrchu lefel y risg lleol.
"Mae'r Fframwaith yn rhoi canllawiau i ysgolion ar y broses a ddylai ddigwydd pe bai cynnydd mewn risg neu gynnydd mewn achosion."
Pwysleisiodd y Cynghorydd Siencyn bwysigrwydd cymryd camau gofalus gan gynnwys golchi dwylo, gwisgo mwgwd a chadw pellter cymdeithasol.