Newyddion S4C

Tân mawr mewn hen glwb cymdeithasol yng Nghas-gwent

Wales Online 01/12/2021

Tân mawr mewn hen glwb cymdeithasol yng Nghas-gwent

Mae’r gwasanaethau brys wedi treulio’r noson yn ceisio diffodd tân mawr mewn hen glwb cymdeithasol yng Nghas-gwent.

Yn ôl Wales Online, roedd fflamau mawr i’w gweld yn codi o Glwb Pont yr Hafren am oddeutu 19:15 a’n fuan wedyn roedd yr holl adeilad wedi’i orchfygu gan y tân.

Y gred yw bod y clwb, sy’n fod i gael ei ddymchwel i wneud lle ar gyfer archfarchnad Lidl, yn wag ac wedi ei fyrddio i fyny pan ddechreuodd y tân.

Roedd pum injan dân ar y safle ychydig wedi 21:00 ac nid yw pobl mewn tai cyfagos wedi cael cyfarwyddyd i adael eu cartrefi.

Darllenwch y stori’n llawn yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.