Plant Mewn Angen: Codi dros £39m, ac Owain Wyn Evans yn codi £3.6m 

Golwg 360 20/11/2021

Mae Plant Mewn Angen wedi codi dros £39m at elusennau eleni.

Llwyddodd y dyn tywydd o Gymru, Owain Wyn Evans godi £3.6m o’r cyfanswm ar ei ben ei hun drwy ddrymio am 24 awr.

Mae’r digwyddiad elusennol blynyddol wedi’i gynnal ers 41 o flynyddoedd bellach.

cafodd y sioe fawr ei ddarlledu ar y BBC nos Wener a daeth cyhoeddiad ar ddiwedd y noson gan y cyflwynwyr Graham Norton a Mel Giedroyc fod cyfanswm o £39,389,048 wedi’i godi eleni.

Darllenwch y stori'n llawn gan Golwg360. 

Llun: @OwainWynEvans trwy Twitter