Alex Cuthbert yn dychwelyd i garfan Cymru i wynebu Ffiji yng Nghyfres yr Hydref

NS4C 10/11/2021

Mae Wayne Pivac wedi cyhoeddi'r garfan fydd yn wynebu Ffiji yng Nghyfres yr Hydref yng Nghaerdydd ddydd Sul.

Ar ôl colli'r ddwy gêm brawf gyntaf, mae Pivac wedi gwneud nifer o newidiadau gan gynnwys Alex Cuthbert yn y garfan am y tro cyntaf ers 2017.

Fe fydd Taine Basham yn symud i safle'r wythwr gydag Ellis Jenkins y capten yn flaenasgellwr ochr dywyll.

Mae Josh Adams wedi ei ddewis i chwarae fel canolwr allanol gyda Thomas Young yn flaenasgellwr ochr agored.

Carfan Cymru: Liam Williams; Alex Cuthbert, Josh Adams, Johnny Williams, Louis Rees-Zammit; Dan Biggar, Kieran Hardy; Rhys Carre, Ryan Elias, Tomas Francis; Will Rowlands, Adam Beard; Ellis Jenkins, Thomas Young, Taine Basham.

Eilyddion: Bradley Roberts, Gareth Thomas, WillGriff John, Christ Tshiunza, Seb Davies, Tomos Williams, Callum Sheedy, Nick Tompkins.

Llun: Asiantaeth Luniau Huw Evans