Y Bencampwriaeth: Coventry 1 - 2 Abertawe

NS4C 02/11/2021

Llwyddodd Abertawe i ennill yn y CBS Arena wrth iddynt drechu Coventry City o ddwy gôl i un nos Fercher - y tîm cyntaf i wneud hynny'r tymor hwn. 

Bu dynion Russel Martin yn dechrau'r gêm yn berffaith wrth i Jamie Paterson sgorio o fewn pum munud, cyn i Joel Piroe rwydo ei nawfed gôl o'r tymor i roi'r Elyrch ar y blaen gan ddau o fewn y chwarter awr gyntaf. 

Ymatebodd Coventry City - sydd yn eistedd yn bedwerydd yn y Bencampwriaeth ar ôl dechreuad addawol i'r tymor - yn sydyn wrth i Kyle McFadzean rhwydo gyda pheniad ar ôl 27 munud. 

Ond llwyddodd Abertawe i wrthsefyll pwysau dwys yn yr ail hanner i sicrhau eu pedwaredd fuddugoliaeth o'r pum gêm ddiwethaf. 

Mae'r Elyrch nawr wedi dringo i'r degfed safle yn y Bencampwriaeth, ond un pwynt tu ôl i'r safleoedd ail-gyfle. 

Llun: Asiantaeth Luniau Huw Evans