Bale yn ôl yng ngharfan Cymru ar gyfer gemau ymgyrch Cwpan y Byd

NS4C 01/11/2021

Mae Gareth Bale wedi ei gynnwys yng ngharfan tîm pêl-droed Cymru ar gyfer y ddwy gêm olaf o'r ymgyrch i gyrraedd Cwpan y Byd 2022.

Bu'n rhaid i Bale fethu'r ddwy gêm ddiwethaf yn erbyn y Weriniaeth Tsiec ac Estonia oherwydd anaf i'w linyn y gar. 

Ond mae'r ymosodwr yn holliach ac yn ôl yn y garfan ar gyfer y gemau tyngedfennol yn erbyn Belarws a Gwlad Belg ar ddiwedd y mis. 

Cyhoeddodd rheolwr dros dro Cymru, Robert Page, y garfan mewn cynhadledd i'r wasg ddydd Llun.

Fe fydd Bale ymuno ag enwau mawr eraill megis Aaron Ramsey a Ben Davies mewn carfan gref ar gyfer y gemau cartref yn Stadiwm Dinas Caerdydd. 

Bydd y ddwy gêm yn hanfodol i obeithion Cymru o gyrraedd eu Cwpan y Byd cyntaf ers 1956. 

Ar hyn o bryd mae dynion Rob Page yn drydydd yn eu grŵp rhagbrofol - tu ôl i'r Weriniaeth Tsiec sydd yn ail ar wahaniaeth goliau. 

Mae'n annhebygol y bydd modd i Gymru gorffen ar frig y tabl - gyda Gwlad Belg yn gyfforddus ar y blaen o bum pwynt - ond fe fydd Cymru yn brwydro i sicrhau ail safle yng Ngrŵp E. 

Trwy orffen yn ail, fe fydd gan Gymru lwybr haws trwy'r gemau ail-gyfle, gan hefyd sicrhau gemau adref o flaen cefnogaeth frwd y Wal Goch. 

Y garfan yn llawn:

Wayne Hennessey, Danny Ward, Adam Davies, Chris Gunter, Ben Davies, Connor Roberts, Chris Mepham, Joe Rodon, Neco Williams, James Lawrence, Rhys Norrington-Davies, Ben Cabango, Aaron Ramsey, Joe Allen, Ethan Ampadu, Jonny Williams, Harry Wilson, Joe Morrell, Dylan Levitt, Will Vaulks, Sorba Thomas, Greth Bale, Daniel James, Kiefer Moore, Tyler Roberts, Brennan Johnson, Rubin Colwill, Mark Harris.

Gemau Cymru sy'n weddill:

Cymru v Bwlarws - Dydd Sadwrn, 13 Tachwedd | CG 19:45 | Stadiwm Dinas Caerdydd

Cymru v Gwlad Belg - Dydd Mawrth, 16 Tachwedd | CG 19:45 | Stadiwm Dinas Caerdydd

Fe fydd y gemau yn cael eu darlledu yn fyw ar S4C.