Gwersylla gwyllt ger cledrau rheilffordd yn benderfyniad ‘gwallgof’

North Wales Live 05/10/2021

Mae penderfyniad ymwelwyr i wersylla lathenni o gledrau rheilffordd trên Llyn Padarn yn Llanberis dros y penwythnos wedi ennyn ymateb chwyrn yn lleol.

Mae'r teithiau trên ar y rheilffordd yn atyniad poblogaidd ymysg twristiaid, ac yn rhedeg gwasanaethau rheolaidd ar hyd glannau Llyn Padarn o'r ganolfan yn Gilfach Ddu i Ben Llyn ym Mrynrefail.

Mae trigolion lleol wedi beirniadu'r ymwelwyr ar gyfyngau cymdeithasol. 

Yn ôl ôl North Wales Live, dywedodd un dyn lleol bod lleoliad y babell yn “wallgof”.

Mae gwersylla gwyllt yn anghyfreithlon yng Nghymru ond mae wedi dod yn boblogaidd dros yr haf hwn gan fod gwestai, parciau gwyliau a safleoedd gwersylla yn llenwi yn gyflym o ganlyniad i gyfyngiadau teithio rhyngwladol. 

Darllenwch y stori'n llawn yma.