Covid-19: Y Sefydliad Materion Cymreig yn galw am ymchwiliad penodol i Gymru

Nation.Cymru

Mae melin drafod annibynnol y Sefydliad Materion Cymreig (IWA) wedi gofyn am ymchwiliad Covid-19 sy’n benodol i Gymru.

Dywedodd yr IWA bod ymchwiliad penodol i Gymru yn “angenrheidiol” ond bod angen cyswllt ffurfiol gydag ymchwiliad y DU gyfan hefyd.

Yn ôl Nation.Cymru, dywedodd Andy Regan o'r IWA y byddai sefydlu ymchwiliad i Gymru yn “brawf o ddewrder gwleidyddol Bae Caerdydd a San Steffan”.

Ychwanegodd: “Ni all ymchwiliad ddod ag anwyliaid ry’n ni wedi eu colli yn ôl, ond gallai fod yn help i Lywodraeth Cymru atal neu leihau rhagor o effeithiau hir-dymor.”

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod wedi gofyn i Lywodraeth y DU sicrhau bod “penodau penodol o’r ymchwiliad yn delio’n uniongyrchol â phrofiadau pobl yma yng Nghymru.”

Darllenwch y stori’n llawn yma.